galeri


Tom Stade: I Swear

image

Ar ôl saib o’r gylchdaith comedi, mae Tom Stade yn ei ôl ar daith a’n dod i Galeri am y tro cyntaf gyda’i sioe newydd sbon ‘I Swear’ yn dilyn cyfnod yng Ngŵyl Caeredin.

 

Yn wyneb cyfarwydd ar raglenni poblogaidd megis Live at the Apollo, Michael McIntyre’s Comedy Roadshow, The John Bishop Show a’r Comedy Gala – cawn brofi ei ddewiniaeth, ffraethiniaeth a chlywed y gwir – a dim ond y gwir gan Tom.

 

Steddwch yn ôl, ymlaciwch a camwch fewn i fyd direidus Tom Stade…

09.11.2017 | 20:00 - Tocynnau