galeri


Oes Rhaid i Mi Ddeffro?

image

Cerddoriaeth, dawns, hedfan, breuddwydion, byd hudol lle mae hosanau yn troi’n frecwast... a lot fawr o hwyl!

 

MaeOes Rhaid i Mi Ddeffroyn gynhyrchiad rhyngweithiol i blant ifanc (2-8 oed) a’u teuluoedd sy’n wledd i ddychymyg y gwylwyr.

 

Mi fydd y gynulleidfa yn cael cyfle i adeiladu a chreu eu straeon eu hunain mewn perfformiad sy’n cyffwrdd â themâu megis rhannu, creu a ffrindiau.  Ymunwch â ni ym myd breuddwydiol y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Arad Goch a wnaeth dorri tir newydd ym maes theatr i blant yng Nghymru trwy cyfuno coreograffi cyfoes Eddie Ladd a cherddoriaeth gwerin o’r 18fed Ganrif.

16.06.2017 | 10:30 - Tocynnau | 13:30 - Tocynnau

17.06.2017 | 10:30 - Tocynnau