galeri


Khamira

image

Mae Khamira yn fand newydd sydd yn uno cerddoriaeth werin Cymru, cerddoriaeth o'r India, jazz a roc mewn un cyfuniad hudolus.

 

Daw 4 aelod o'r band arloesol jazz/gwerin o Gymru - Burum ynghyd â thri cerddor dawnus o'r India i greu sŵn hollol newydd – cerddoriaeth byd fel na'i chlywid ei fath o'r blaen. Bydd sŵn y sarangi a'r tabla, yn uno gyda'r trwmped a'r guitar i greu rhythmau egsotig ac alawon bythgofiadwy - bydd nifer o alawon gwerin Cymru yn cael triniaeth hollol newydd a gwreiddiol wrth deithio draw i'r India ac yn ôl.

 

Mae Khamira ar daith mawreddog ledled Cymru ac wedi chwarae yng ngwyliau poblogaidd yn India fel Gwŷl Jazz Goa a Kolkata, Dymr’r tro cyntaf i Khamira berfformio yng Nghymru yn dilyn perfformiadau mewn gwyliau poblogaidd yn India megis Gŵyl Jazz Goa a Kolkata.

 

Khamira yw: Tomos Williams – trwmped • Suhail Yusuf Khan – sarangi a llais • Aditya Balani – gîtar • Dave Jones – piano/allweddellau • Aidan Thorne – bâs • Mark O'Connor – drymiau • Vishal Nagar – tabla a llais

 

Bydd gweithdy arbennig rhwng 16:00 – 17:00 gyda Khamira. Cyflwyniad i’r offerynnau o'r India – y sarangi a'r table, cyfle i esbonio rhai syniadau ynglyn a'r gerddoriaeth ac i drafod gyda enghreifftiau sut yr aethpwyd ati i uno cerddoriaeth werin Cymru gyda cerddoriaeth glasurol India. Tocynnau am ddim gyda’ch tocyn i’r cyngerdd (£3 am y gweithdy yn unig).

 

Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect swyddogol Prydain / India 2017 a ariennir gan y British Council a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

27.05.2017 | 19:30 - Tocynnau


Trêl