galeri


Peatbog Faeries

image

Yn dilyn rhyddhau’r albwm diweddaraf,Blackhousemae Peatbog Faeries nol ar y lôn ac yn dod i Galeri am y tro cyntaf!

 

Ers ffurfio 1991, mae’r band, sydd yn hannu o Ynys Hir, Yr Alban wedi teithio’r byd a chael llwyddiant yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn 2012, cafodd y band eu henwebu am wobr ‘Y Band Byw Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin 2012 BBC Radio 2. Mae eu harddull unigryw a dyfeisgar yn cymysgu jigs traddodiadol â cherddoriaeth jazz, hip hop a reggae gan greu cyfuniad o gerddoriaeth Albanaidd draddodiadol a phŵer cerddoriaeth ddawns Geltaidd fywiog.

 

Aelodau’r band yw Peter Morrison (pibau a chwistlau), Ross Couper (ffidil), Tom Salter (gitar), Innes Hutton (bas, offerynnau taro) Graeme Stafford (allweddellau) and Stuart Haikney (drymiau).

 

Byddwch yn barod i ddawnsio i gerddoriaeth werin-roc y band Albanaidd.

 

Gig sefyll yw hwn.

04.05.2017 | 20:00 - Tocynnau