galeri


Twelfth Night (12A)

image

Tamsin Greig yw Malvolia mewn tro newydd ar gomedi glasurol Shakespeare o gamddeall pwy ydi pwy.

 

Yn dilyn llongddrylliad, caiff Viola ei golchi i’r lan, ond nid felly ei hefaill, Sebastian. Mae Viola’n benderfynol o lwyddo ar ei phen ei hun ac yn bwrw ati i archwilio ei thir newydd.

 

Siwrnai garlamus o gamddeall pwy ydi pwy, a chariad na chaiff ei dalu’n ôl. Mae serch nwydus yn lledu trwy deuluoedd Olivia ac Orsino, a’r gwallgofrwydd hyd yn oed yn gafael yn howscipar parchus Malvolia.

 

Wrth i gerddoriaeth fwydo cariad, a neb yn union fel y tybiech ar yr olwg gyntaf, mae pob dim yn bosibl...

 

Darllediad byw i sinemau fel rhan o gyfres NT Live.

06.04.2017 | 19:00 - Tocynnau