galeri


NT LIVE: Hedda Gabler (12A)

image

Newydd briodi ac wedi diflasu yn barod, mae Hedda’n ysu i gael bod yn rhydd…

Mae Hedda a Tesman newydd ddychwelyd o’u mis mêl ac mae’r berthynas mewn trafferth yn barod. Gan deimlo'n gaeth ond yn benderfynol o ddianc - mae Hedda’n ceisio rheoli’r sefyllfa a'r bobl sydd o'i chwmpas, ond mae ei byd ei hun yn datod.

Ivo van Hove sy'n dychwelyd i gyfarwyddo'r cynhyrchiad modern o gampwaith Ibsen. Ruth Wilson sy’n chwarae’r rôl deitl mewn fersiwn newydd gan Patrick Marber.

09.03.2017 | 19:00 - Tocynnau