galeri


NY MET: Der Rosenkavalier (R.Strauss)

image

Cynhyrchiad newydd cyntaf y Met ers 1969 o gampwaith rhamantaidd cyfoethog Strauss, wedi'i arwain gan y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth James Levine a'i gyfarwyddo gan Robert Carsen, a weithiodd ddiwethaf gyda'r Met ar y llwyfaniad llwyddiannus o Falstaff yn 2013. Mae Renée Fleming yn canu un o'i rhannau mwyaf adnabyddus fel y Marschallin, gyferbyn ag Elina Garanca yn ei pherfformiadau cyntaf yng Ngogledd America fel Octavian, y cymeriad teitl mympwyol ac ifanc. Mae'r cast hefyd yn cynnwys Günther Groissböck fel Baron Ochs, Erin Morley fel Sophie, Marcus Brück yn ei berfformiad cyntaf yn y Met fel Faninal, a Matthew Polenzani fel y Canwr Eidalaidd. Mae Der Rosenkavalier yn gydgynhyrchiad â'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, a Teatro Regio di Torino.

 

 

13.05.2017 | 17:30 - Tocynnau