galeri


NY MET: Eugene Onegin (Tchaikovsky)

image

Mae Anna Netrebko yn dychwelyd i un o'i rhannau mwyaf adnabyddus fel Tatiana, arwres ddiniwed opera Tchaikovsky, sydd wedi'i addasu o nofel glasurol Pushkin. Mae Dmitri Hvorostovsky yn serennu fel cymeriad y teitl, sy'n gwrthod cariad Tatiana nes ei bod hi'n rhy hwyr. Robin Ticciati, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Gŵyl Glyndebourne, sy'n arwain yr adfywiad o lwyfaniad Deborah Warner, a agorodd dymor 2013-14 y Met. Alexey Dolgov sy'n canu rhan cyfaill Onegin sy'n dod yn gystadleuydd iddo, Lenski, ac Elena Maximova yw chwaer Tatiana, Olga, a Štefan Kocán yw Prince Gremin.

22.04.2017 | 17:55 - Tocynnau