galeri


Stryd Llyn

 

Y dylunwyr Ann Catrin Evans a Lois Prys sydd wedi creu'r gwaith gweledol ar gyfer Stryd Llyn. Mae eu dyluniad wedi cael ei ysbrydoli gan y cysylltiadau hanesyddol cryf â gwneuthurwyr hetiau, dillad, esgidiau, teilwra a gwneuthurwyr rhaffau a chortyn ar Stryd Llyn, yn ogystal â llif afon Cadnant trwy ganol y dref. 

 

“Roeddem am greu rhywbeth a fyddai’n cyfuno technegau gwehyddu, gwnïo a gwneud rhaffau â llif yr afon Cadnant i greu gosodiad celf drawiadol ar hyd Stryd Llyn," meddai Lois Prys. Drwy gyfnod y prosiect ac wrth ddatblygu’r darn o waith, mae’r ddwy wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i greu’r darn - ymdrech tîm go iawn! Mae cydweithio hefo’r gymuned wedi ysgogi diddordeb ac awch i greu, ac yn harddu ardal o Gaernarfon sydd yn  ymateb i alwad y gymuned, ac yn rhywbeth y gall bawb fod yn falch ohonno.  

Yn bwydo’r gwaith gweledol hyfryd yma, mae yna lot fawr o waith sgwrsio wedi digwydd gyda’r gymuned, yn darganfod straeon, atgofion a clywed am be mae Stryd Llyn yn ei olygu iddyn nhw. Cwmni cymunedol creadigol MWY  sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith yma: 

 

“Ein rhan ni, cwmni cymunedol MWY, o’r prosiect oedd hel straeon ac atgofion gwahanol grwpiau ac unigolion Caernarfon am Stryd Llyn. Law yn llaw ag atgofion y gymuned hŷn roeddem yn awyddus i gael perspectif y genhedlaeth iau a’u hargraffiadau nhw o’r stryd a hynny mewn ffordd fwy ddychmygus a chwareus - o safbwynt y gwylanod!” 

 Aeth y dramodydd Iola Ynyr ati i blethu’r holl ddeunydd i mewn i sgript gan ddefnyddio union eiriau’r cyfranwyr. Recordiwyd y sgript gan ddau actor lleol - Betsan Ceiriog ac Iwan Fôn ac mae’r deunydd ar gael trwy ddefnyddio'r côd QR a welir mewn ambell ffenast siop ar Stryd Llyn.  
 
Fe glywch chi ganlyniad eu sgyrsiau nhw yn y recordiad yma sydd yn crynhoi yr holl storiau a gasglwyd ac yn cynrhychioli llais y stryd hanesyddol yma 

Cliciwch yma am y trawsgrifiad