Gyda diolch i Arloesi Gwynedd Wledig ac ADRA fe ddechreuodd taith Prosiect Canfas ar ffurf peilot….
A dyma oedd canlyniad y cyfnod arbrofol hwnnw.
Ar ochr maes parcio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, mae rhywbeth wedi ymddangos i ddod a lliw a diddordeb i’r wal concrit llwyd ‘da ni gyd yn ei hadnabod. ‘Gorwelion a Gobaith’ ydi enw’r gwaith celf mawr wedi ei greu gan yr artist Teresa Jenellen.
Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards, ond nid portread o Ellen ydi hwn; yn hytrach, portread o ferch gyda phwrpas a gobaith, yn edrych tua’r gorwel a thu hwnt - tuag at bethau sydd eto i ddod, pethau sydd yn bosib yn y dyfodol…
I ddysgu mwy am Ellen Edwards, ewch draw i - www.ellenedwards.cymru
Murlun Ellen Edwards mewn partneriaeth â Arloesi Gwynedd Wledig a gyda diolch i Gyngor Gwynedd am y caniatad i’w osod ar faes parcio Doc Fictoria.