galeri


Bro Seiont

Fe ddechreuodd Canfas Bro Seiont yn ystod y cyfnod peilot gyda gwaith ymgysylltu a sgwrsio hefo’r gymuned i roi cynllyn yn ei le ac i glywed gobeithio’n yr unigolion sydd yn byw yno.  

Mae Bro Seiont yn ganfas mewn partneriaeth gyda ADRA. Nod y canfas yma oedd creu gofod mwy apelgar i’r plant ddychmygu/bod yn greadigol, a hefyd yn le i’r teuluoedd ymgynnull i gymdeithasu. Yn ymateb i’r trafodaethau, mae ffram chwarae wedi ei osod yma. 

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu syniadau ar y cyd hefo’r artist Llyr Alun, sydd yn wreiddiol o Fangor, i ychwanegu lliw I'r ardal yma, drwy gydweithio gyda aelodau o gymuned Bro Seiont a tim cymunedol ADRA. Y gobaith ydy y bydd yna ddatblygiadau pellach yn y dyfodol agos...