galeri


Archif Canfas

Ceisiadau nawr ar agor!

Mae’r ceisiadau nawr ar agor i unrhyw unigolyn creadigol gyflwyno eu syniadau ar gyfer y cynfasau canlynol. Mae 3 canfas wedi ei leoli o gwmpas y dref gyda themâu penodol i bob ganfas sydd wedi ei yrru gan atgofion a straeon y gymuned.

Mae'r posibiliadau a'r syniadau creadigol yn ddiddiwedd ar gyfer y lleoliadau canlynol. Be bynnag yw eich maes a’ch arbenigedd, gadewch i'ch creadigrwydd a'ch dychymyg fod yn sbardun ar gyfer y cynfasau hyn...edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau!

  • Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau - 18fed o Hydref 2023
  • Cyfweliadau: 24ain/25ain Hydref
  • Hyd y Prosiect: Tachwedd – Mawrth 2024
  • Format derbyn ceisiadau:
    1. PDF – i gynnwys ‘mood board’ o’ch syniadau a’ch gweledigaeth
    2. Braslun o’r gwariant
    3. Unrhyw esiamplau o’ch gwaith blaenorol lle mae’n bosib
    4. CV/bio byr

Ebostiwch canfas@galericaernarfon.com gyda eich ceisiadau



CANFAS 1 - Stryd Llyn

 

  • Lleoliad: Llwybrau, palmentydd a gofod Stryd Llyn
  • Thema: Atgofion a Straeon o brysurdeb o’r stryd fasnachol / Llyn Cadnant a’r System Ddwr newydd yn 1860au
  • Nodweddion: Ystyriwch ddeunyddiau amrywiol, (fel deunyddiau ailgylchu,naturiol a / neu tecstiliau
  • 25 diwrnod o waith (7.5 awr) @ £250
  • Hyd at £12,000 o gyllideb i greu y gwaith
  • Mi fydd yna ychydig o gyfle i ddatblygu syniadau ar y cyd hefo’r gymuned/grwpiau

Poster ar gyfer Canfas 1- Stryd Llyn

CANFAS 2 - Pen Dist / Clwt y Mawn (Turf Square)

 

  • Lleoliad: Pen Dist / Clwt y Mawn + strwythurau ymylol
  • Thema: Dylanwad Tre’ Porthladd a’r stori a iaith y dre’ / Gwyrddni (lleoliad oedd arfer a bod yn ganolog i werthiant Mawn)
  • Nodweddion: Ystyriwch arddulliau aml gyfrwng, gwneud defnydd o adnoddau a deunyddiau naturiol, Eco gyfeillgar a/neu osodiadau amgylcheddol, a cyfleoedd partneru a cynaladwyedd
  • 25 diwrnod o waith (7.5 awr) @ £250
  • Rhwng £5,000 - £10,000 o gyllideb i greu y gwaith
  • Mi fydd yna ychydig o gyfle i ddatblygu syniadau ar y cyd hefo’r gymuned/grwpiau

Poster ar gyfer Canfas 2 Pen Dist / Clwt y Mawn

CANFAS 3 - Tan y bont

 

  • Lleoliad: Mill Street a’r ardal ymylol
  • Thema: Cerddoriaeth y gorffennol, presenol a’r dyfodol gan gydnabod gwaddol Clwb Tanybont a’i gyfraniad i’r Sin Roc Gymraeg.
  • Nodweddion: Ystyriwch elfennau fel Sain, profiad a naws, cydweithio, dilyniant ehangach drwy’r dref, ymyrraeth dros dro gyda elfen parhaol.
  • 25 diwrnod o waith (7.5 awr) @ £250
  • Hyd at £10,000 o gyllideb i greu y gwaith
  • Mi fydd yna ychydig o gyfle i ddatblygu syniadau ar y cyd hefo’r gymuned/grwpiau

Poster ar gyfer - Canfas 3 - Tan y Bont

 

Dyma brosiect newydd sydd yn cael ei reoli a’i arwain gan Galeri Caernarfon Cyf. Y cysyniad yn syml yw i roi cyfle arloesol i'r gymuned gyfan gofnodi ei hunaniaeth unigryw yng ngofodau a ffabric adeiladwaith tref Caernarfon a chyfle i glywed lleisiau sydd efallai heb eu clywed o’r blaen….

Mae ein hanes wedi cael ei adrodd gan eraill ac mae hwn yn gyfle i gyfleu sut rydym ni yn gweld ein hunain mewn ffordd gweladwy, arloesol ac yn wahanol iawn. Nid yn unig edrych nol ar y gorffennol ond bod yn hyderus mewn hunaniaeth cynwysiedig ag arloesol wrth ddychmygu'r dyfodol. Mae cyfle i gynnig nifer o wahanol math o ymyrraeth sy'n cyffwrdd a:

Ar yr un pryd, mi fydd y prosiect yn gwella edrychiad a chodi ansawdd amgylcheddol y dref a chyflwyno golau, gwyrddni a natur i ofodau llwm, llwyd sydd wedi’u hesgeluso a’u anghofio.

Ein bwriad wrth ddatblygu Canfas yw cynnwys gofodau gwag ar hyd a lled y dref – nid dim ond canolbwyntio ar ganol y dref, ond hefyd y cymunedau/stadau lle mae ein trigolion yn byw.

Mae'r prosiect yn clymu adfywio hefo'r celfyddydau; canol y dref gyda'r ystadau tai; artistiaid llawrydd gyda'r gymuned a hunaniaeth hefo'r amgylchedd.

Mae dau brosiect ar ffurf peilot (gyda diolch i Arloesi Gwynedd Wledig ac ADRA am gefnogi) wrthi yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd:

Bro Seiont, Caernarfon smewn partneriaeth â ADRA

Murlun Ellen Edwards mewn partneriaeth â Arloesi Gwynedd Wledig a gyda diolch i Gyngor Gwynedd am y caniatad i’w osod ar faes parcio Doc Victoria

Y gobaith dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yw gallu datblygu’r prosiect ymhellach – fydd yn cynnig cyfleoedd i artistiaid a’r gymuned fod yn ran ganolig o’r broses ac i drawsnewid y gofodau llwm a chyflwyno fflach o liw, ysbrydoliaeth a balchder cymunedol.

pic01

Ar ochr maes parcio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, mae rhywbeth wedi ymddangos i ddod a lliw a diddordeb i’r wal concrit llwyd ‘da ni gyd yn ei hadnabod. ‘Gorwelion a Gobaith’ ydi enw’r gwaith celf mawr newydd wedi ei greu gan yr artist Teresa Jenellen.

Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards, ond nid portread o Ellen ydi hwn; yn hytrach, portread o ferch gyda phwrpas a gobaith, yn edrych tua’r gorwel a thu hwnt - tuag at bethau sydd eto i ddod, pethau sydd yn bosib yn y dyfodol…

I ddysgu mwy am Ellen Edwards, ewch draw i - www.ellenedwards.cymru